Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 20 Tachwedd 2019
Amser:
09.00-
12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5704
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Andrew RT Davies AC Llyr Gruffydd AC Neil Hamilton AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Gian Marco Currado, Llywodraeth Cymru Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru Tim Render, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y tystion a ganlyn i’r cyfarfod: Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig; Christianne Glossop, y Prif Swyddog Milfeddygol; Tim Render, Cyfarwyddwr, yr Amgylchedd a Materion Gwledig; a Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, yr Amgylchedd a’r Môr.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ysgrifenedig yn amlinellu'r meini prawf sydd ynghlwm wrth y cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i farchnadoedd da byw at ddibenion uwchraddio cyfleusterau sy'n darparu gwybodaeth am dda byw.
2.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar achosion o TB buchol o gymharu â maint y fuches.
3.1 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn yn amlinellu’r 10 maes yn ei phortffolio Gweinidogol lle ceir fframweithiau cyffredin anneddfwriaethol.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn yn cynnwys gwybodaeth bellach am 'sbwriel pysgodfeydd'.
3.3 Cytunodd y Gweinidog i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â'r Pwyllgor am roi’r Cynllun Datblygu Gwledig ar waith.
4.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 5 a 6.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3, gan nodi materion allweddol i‘w trafod ymhellach gyda'r Gweinidog.
6.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) a chytunodd arno, yn amodol ar fân newid.